Elin Crowley

Elin is an artist from Machynlleth who creates print work taking inspiration from the landscape around her in her home in Mid Wales. The way of life of her Welsh countryside community has a great influence on her, especially the contrasts and changes that happen daily. The focus of the work derives from a concept of belonging to a community, a sense of place, language, and country. As she researched, Elin realized that feelings of security and comfort were at the root of her findings, and an appreciation of the privilege of feeling safe in a world full of war and injustice. The agricultural shed in which she spent so much time when she was younger became a symbol of warmth and shade.

Elin graduated in Fine Art from UWIC University, Cardiff in 2003, and more recently from Aberystwyth University with a First Class MA in Fine Art specializing in printing.

Artist o Fachynlleth yw Elin sy’n creu gwaith argraffu gan gymryd ysbrydolaeth o'r tirwedd o’i chwmpas yn ei chartref yng Nghanolbarth Cymru. Mae ffordd o fyw ei chymuned cefn gwlad Cymreig yn ddylanwad mawr arni, yn enwedig y cyferbyniadau a’r newidiadau sy'n digwydd yn ddyddiol. Mae ffocws y gwaith yn deillio o gysyniad o berthyn i gymuned, naws am le, iaith, a gwlad. Wrth iddi ymchwilio, sylweddolodd Elin mai teimladau o ddiogelwch a chysur oedd gwraidd ei chanfyddiadau, a gwerthfawrogiad o’r fraint o deimlo’n saff mewn byd sy’n llawn rhyfela ac anghyfiawnder. Daeth y sied amaethyddol y treuliodd gymaint o’i hamser ynddi pan yn iau yn symbol o gynhesrwydd a chysgod.

Graddiodd Elin mewn Celf Gain o Brifysgol UWIC, Caerdydd yn 2003, ac yn fwy diweddar o Brifysgol Aberystwyth gyda MA Dosbarth Cyntaf mewn Celf Gain gan arbenigo mewn argraffu.